Y Rhyfel Mawr a’r Cymoedd

Merthyr Tudful a Chwm Cynon

English

Rhannu’r dudalen hon

Ymateb Cychwynnol

Mabwysiadodd gwahanol garfannau o’r gymdeithas wahanol safbwyntiau ynglŷn â’r angen am ryfel. Roedd David Lloyd George, y ffigwr cyhoeddus Cymreig amlycaf a Changhellor y Trysorlys, yn dadlau bod y frwydr yn rhyfel i amddiffyn y ‘cenhedloedd pum troedfedd’ - gwledydd bach diamddiffyn fel ‘Serbia fach ddewr’ a ‘Gwlad Belg fach ddewr’ a oedd ar drugaredd pwerau mawr Ewrop. Fel un o’r cenhedloedd bychain hynny, roedd yn ddyletswydd ar Gymru i ymuno yn y frwydr. Roedd y fyddin yn dibynnu ar recriwtiaid tan 1916, felly roedd yn rhaid perswadio dynion i gefnogi’r achos am y rhyfel er mwyn iddynt wirfoddoli.  Ond nid oedd pawb yn cytuno â’r rhyfel.  Roedd Sosialwyr fel James Keir Hardie, Aelod Seneddol Llafur Bwrdeistrefi Merthyr, yn wrthwynebydd chwyrn i’r brwydro, ac o’r gred bod mwy yn gyffredin gan weithwyr Ewrop nag oedd yn eu gwahanu. Sut bynnag, roedd y mwyafrif o’r bobl gyffredin yn cefnogi’r ymgyrch, ond parhaodd i fod yn ddigwyddiad dadleuol.